SL(6)257 – Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) yn ymestyn y cyfnod pontio ar gyfer newidiadau penodol i labeli bwyd o ganlyniad i ymadael â’r UE. Yr effaith yw y bydd rhai termau labeli yr UE a chyfeiriadau yr UE yn cael eu caniatáu ar y farchnad yng Nghymru am 15 mis ychwanegol.
Mae’r Rheoliadau’n diwygio deddfwriaeth ddomestig
Cymru a chyfraith yr UE a ddargedwir fel y mae’n gymwys yng
Nghymru. Daw’r cyfnod pontio presennol ar gyfer y newidiadau
hyni labeli bwyd i ben ar 30 Medi 2022. Mae’r
Rheoliadau’n ymestyn diwedd y cyfnod pontio hyd at 31 Rhagfyr
2023 (ac yn cynnwys y dyddiad hwn).
O ganlyniad, bydd y gofyniad a gorfodaeth newidiadau labelu penodol
sy’n ymwneud ag ymadael â’r UE yn gymwys o 1
Ionawr 2024.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r canlynol:
· Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006;
· Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007;
· Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009;
· Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011;
· Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013;
· Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014;
· Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015;
· Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015;
· Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016;
· Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion;
· Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer wyau;
· Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi'u prosesu;
· Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) Rhif 29/2012 ar safonau marchnata ar gyfer olew olewydd, a
· Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 sy'n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran ceisiadau i ddiogelu dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn wrthwynebu, cyfyngiadau defnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo amddiffyniad, a labelu a chyflwyniad.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 3 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae rheoliad 2 yn nodi ei fod yn diwygio paragraff (9)(b)(ii) yn rheoliad 17 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ond nid yw is-baragraff (b) yn cynnwys paragraff (ii).
2. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae rheoliad 3, sy'n diwygio rheoliad 12 o Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007, yn cyfeirio at 'is-baragraff (a)', ond dylai ddarllen 'paragraff (a)' gan nad oes unrhyw adrannau blaenorol yn y rheoliad. .
3. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Yn rheoliad 5, sy'n diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011, mae paragraff (2) yn cyfeirio'n anghywir at deitl rheoliad 4 fel '(tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd)'. Y teitl cywir i'r rheoliad hwnnw yw '(tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir)'.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwyntiau adrodd technegol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Medi 2022